Uwch-swyddog Datblygu Technegol
Uwch-swyddog Datblygu Technegol, Systemau Gweithredol, Is-adran Gwasanaethau Digidol
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm Systemau Gweithredol sefydledig yn yr Is-adran Gwasanaethau Digidol prysur sydd wedi'i lleoli yn bennaf ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad amlwg o nodi a datrys problemau cymhleth ledled y rhaglenni a ddefnyddir i ddarparu Plismona Gweithredol. Bydd yn darparu cymorth technegol arbenigol ac arweiniad i amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys defnyddwyr gweithredol, uwch-reolwyr a'r tîm cymorth a datblygu ehangach, cyflenwyr, ac yn achlysurol, heddluoedd eraill y DU. Mae lefel uchel o wybodaeth cronfeydd data MS SQL yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i ddehongli gofynion busnes a ffurfweddu Systemau Gweithredol yn unol â hynny.
Ymhlith y prif gyfrifoldebau mae:
- Ymchwilio i broblemau/materion a darparu datrysiadau priodol.
- Rhoi cymorth digonol i ddefnyddwyr system yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod systemau Gweithredol yr heddlu yn cydymffurfio â phrotocolau a gweithdrefnau'r heddlu.
- Asesu gofynion busnes a darparu digon o gymorth, cyngor ac arweiniad i arweinwyr busnes.
- Helpu gydag achosion cymhleth, gan gwblhau tasgau yn unol â chyfarwyddiadau'r ymarferwyr sy'n goruchwylio a rhoi cyngor ac arweiniad.
- Datrys problemau cymhleth.
Bydd y rôl yn cynnwys teithio yn achlysurol ledled y DU, ac yn achlysurol bydd angen aros dros nos.
Mae gweithio i Heddlu De Cymru yn cynnig llawer o fuddion. Yn ogystal â chyfrannu at ddiogelwch ein cymunedau a bod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol, mae gyrfa gyda Heddlu De Cymru yn cynnig cyflog cystadleuol a chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyfrannol gwych. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fuddiannau, o gyfleoedd dysgu a datblygu i arbedion a gostyngiadau ffordd o fyw. Am restr gynhwysfawr o fuddiannau, dilynwch y ddolen ganlynol: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/Cyflog-buddiannau-gwobrau/
Mae'r swydd wedi'i lleoli ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ond bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael budd o bolisi gweithio'n glyfar yr heddlu (manylion pellach ar gael trwy'r hyperddolen uchod).
Rhaid i'r Ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Rheoli a Chliriad Diogelwch.
Sylwch, os ydych yn ymgeisydd mewnol ac yn destun ymchwiliad parhaus i PSD, efallai y bydd oedi cyn i'ch penodiad neu leoliad yn y rôl gael ei ohirio hyd nes y bydd canlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn agored yn cael ei hystyried fesul achos
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sian Richards ar Sian.Richards@south-wales.police.uk